llythyron / capel y rhath

Llythyr i’r Enaid – gan Vernon Higham

Annywl Gyfaill

Y mae’r hen Feibl Teuluaidd mawr yn dal yn ein teulu ni, yn cofnodi genedigaethau a marwolaethau nifer o genhedloedd yn hanes y teulu. Bellach y mae Beiblau llai a hwylusach i’w defnyddio gennym. Y rheswm y soniaf am yr hen Feibl Mawr yw hyn. Yn y rhagymadrodd gan Peter Williams, y mae’n dechrau ei erthygl gyda’r geiriau trawiadol ‘Enaid Gwerthfawr’. Anaml iawn heddiw y clywir sôn am enaid, ond sôn neu beidio y mae gan bob un ohonom enaid, a hynny yn rhywbeth gwerthfawr. Yn anffodus ac yn drist, hawdd yw esgeuluso’r enaid.

Yr ydym yn gallu disgrifio’r corff am ein bod yn ei weld, ac yn ei deimlo. Eto y mae rhyw fath o wybodaeth gennym ein bod yn fwy na chorff yn unig sy’n heneiddio ac yn marw. Beth sydd yn ein gwneud mor wahanol i bob creadur arall, ac sydd yn ein gwneud yn ymwybodol o fywyd a marwolaeth? Yr ateb yw yr enaid. Disgrifir yr enaid yn y Beibl yn Genesis 2:7 ‘Yr Arglwydd Dduw a luniasau y dyn o bridd y ddaear, ac a anadlasai yn ei ffroenau ef anadl einioes: a’r dyn a aeth yn enaid byw’. Yn ddwfn yn ein bodolaeth y mae’r enaid hwn yn gwneud fi yn fi, a chwithau yn chwi. Yr ydym yn gorff ag enaid. Mor hawdd ac angenrheidiol yw gofalu am y corff, ei fwydo a’i ddilladu ac yn y blaen. Eto rhaid ffarwelio a’r corff rhyw bryd, ond erys yr enaid yn anfarwol. Yr hyn sydd gennyf i chwi yw hyn. Pa gyflwr yw eich enaid chwi? A ydych wedi ystyried dyfodol tragwyddol yr enaid? A ydych wedi ystyried Duw a’i ddedfryd Ef?

Y mae’r cwestiwn yn codi’n naturiol sut mae darparu’r enaid ar gyfer tragwyddoldeb ac wynebu Duw. Y mae gennym ddwy broblem fawr, yn ein hwynebu, sef glendid a sancteiddrwydd Duw, a chyflwr pechadurus dyn. Y mae’n amhosibl i ddyn fod mewn perthynas dragwyddol gyda Duw oherwydd hyn. Onid yw’r ffaith o holl grefyddau’r byd, mawr a mân, yn profi un peth? Hynny yw, bod gan ddyn rhyw fath o ddyhead am Dduw, a bod yn dderbyniol ganddo. Paham y mae’r cwbl yn fethiant? Y rheswm yw nad ydyw gweithredoedd dyn, bydded yn weithredoedd da neu’n weithredoedd crefyddol yn dileu ei bechod. Dywed y Beibl yn Effesiaid 2:8a9 ‘Canys trwy ras yr ydych yn gadwedig, trwy ffydd; a hynny nid ohonoch eich hunain: rhodd Duw ydyw: nid o weithredoedd, fel nad ymffrostiai neb.’

Y mae gras a thrugaredd yn gweithio mewn ffordd hollol wahanol i’r ffordd y mae dynion yn meddwl. Datguddiad yw Cristionogaeth o ffordd sydd gan Dduw i wneud dynion a merched yn dderbyniol yn Ei olwg Ef, fel Ei fod yn barod i’n derbyn i’w gwmni yn dragwyddol. Gadewch i mi esbonio’r Efengyl, sef newyddion da i ddyn.

Mewn amser arbennig mae’r enaid yn dihuno i’r pethau hyn. Rhaid ystyried dau beth. Y cyntaf yw sancteiddrwydd Duw na all oddef pechod sydd yn groes i’w gymeriad Ef. Yr ail beth yw hyn, ein bod ni er ein balchder yn bechadurus mewn meddwl a gweithred. Felly sut mae datrys y broblem fawr hon?

Yr ateb yw bod Duw wedi anfon Ei unig-anedig Fab, sef Yr Arglwydd Iesu Grist i’r byd i gyflawni gwaith arbennig er mwyn achub enaid dyn. Ioan 3:16 ‘Canys felly carodd Duw y byd, fel y rhoddodd ei unig-anedig Fab, fel na choller pwy bynnag a gredo ynddo Ef, ond caffael ohono Fywyd Tragwyddol’. Y mae’r Arglwydd Iesu yn gwneud dau beth trosom ni. Y cyntaf yw Ei farwolaeth ar y Groes. Ar y Groes y mae yr Arglwydd Iesu yn derbyn y gosb yr ydym ni yn ei haeddu. Y mae’r Groes yn boenus ond mae derbyn dicter Duw am bechod yn fwy. Safodd yr Iesu yn ein lle, a gwaedodd trosom. Yr ail beth yw, ei fod yn cyflawni gofynion deddf Duw trosom ni. Yn syml y mae’n ein golchi ni yn lan o bechodau y gorffennol, presennol a’r dyfodol. Maddau’r cwbl. Yna y mae’r Iesu hefyd yn ein gwisgo yn Ei fywyd Ei hun, fel petai ein bod wedi byw Ei fywyd Ef. Dyma i chwi ddarpariaeth o’r cwbl gan Dduw, a dyma’r unig feddyginiaeth ysbrydol i ddyn.

Erys un anhawster. Sut y gallwn dderbyn y fendith hon? Yr ateb syml yw, trwy edifeirwch a ffydd. Y mae Duw yn Ei drugaredd yn ein galluogi i edifarhau ac i gredu. Eto rhaid cymryd y cam ein hunain a dod yn edifeiriol at yr Iesu a rhoi ein ffydd yn gyfan gwbl ynddo Ef. Pa bryd? Heddiw. Paham heddiw? Sut y gwyddom fod yfory yn eiddo i ni. Dewch ar frys at y Gwaredwr Bendigedig a diogel fydd eich enaid a’i ddyfodol yn y nef yn sicr.

Llythyr yn cyflwyno Capel y Rhath

Annwyl Ffrind yng Nghrist,

Parthed : Gwasanaethau Cymraeg yng Nghaerdydd – “Capel y Rhath”

Ers 2004 cynhaliwyd astudiaethau Beiblaidd Cymraeg unwaith y mis, yn gyntaf yng nghartref Alun a Helen Higham ac yn fwy diweddar yn neuadd Tabernacle Cardiff. O’r cychwyn ein gobaith oedd y byddai’r cyfarfod misol hwn yn arwain y ffordd i sefydlu Capel Efengylaidd Diwygiedig Cymraeg. Os Duw a’i myn bydd gwasanaeth wythnosol Cymraeg yn cael ei gynnal bob Sul yn adeilad Tabernacle Cardiff gan ddechrau
5 Mehefin 2011. Bwriad Tabernacle Cardiff, ar yr amser priodol, yw ordeinio Alun Higham i’r weinidogaeth Gristnogol ac i’r gwaith hwn.

Y mae Cymry Cymraeg ein gwlad wedi hen ymadael â’r Efengyl a oedd unwaith yn llanw’n gwlad â’i gogoniant. Yr oedd y cydbwysedd Beiblaidd rhwng y Gair a’r Ysbryd i’w weld ar ei orau yn ein gwlad ar un amser. Er mawr dristwch inni mae ein gwlad wedi caledu ei chalon ac y mae hi bellach ymhell oddi wrth bethau Duw, efallai ymhellach hyd yn oed na rhannau eraill o Brydain. Yn debyg i genhedloedd eraill yn ein byd, y ffordd orau i gyrraedd â phobl yw trwy eu mam-iaith ac felly ein gweledigaeth yw cyrraedd calonnau’r Cymry Cymraeg trwy yr iaith Gymraeg. Ymddiriedwn, trwy ras a nerth Duw, i ddod a bywyd Crist i’w heneidiau anfarwol.

Er mwyn ymroddi i’r gwaith yma, y mae Alun wedi lleihau ar ei ddyddiau dysgu ac mae’n gweithio rhan-amser.  Ein gweddi yw y bydd y ddarpariaeth ariannol yn cael ei chefnogi gan eglwysi cytũn a ffrindiau cristnogol.  Ysgrifennwn felly at rai efallai a fydd â diddordeb yn y gwaith hwn ac o bosibl a fyddai’n ystyried cefnogi’r gwaith yn weddïgar ac yn ariannol.

I ddechrau, bydd y fenter hon yn gysylltiedig â Tabernacle Cardiff gan ddefnyddio’u hadeilad a’u cyfleusterau.  Os Duw a’i myn, fodd bynnag, y bwriad yw creu Capel Cymraeg annibynnol. Yn y cyfnod arloesol hwn o’r gwaith, cynhelir y gwasanaethau ym mhrif adeilad y capel am 3:30yp bob Sul. Caniatâ hyn i aelodau Tabernacle Cardiff gefnogi’r gwaith a pharhau â’u presenoldeb yng ngwasanaethau boreol a hwyrol Tabernacle Cardiff.  Dros amser, ymddiriedwn y bydd cynulleidfa newydd yn codi ac y bydd y gwaith yn llai dibynnol ar gefnogaeth Tabernacle Cardiff. Byddwn hefyd yn cynnal cwrdd gweddi ar y 3edd nos Iau ymhob mis.

Yn ystod y cyfnod ffurfiannol hwn o’r gwaith yr ydym wedi sefydlu grŵp bychan o bobl i edrych i mewn i anghenion ymarferol a chyllidol Alun a Helen. Os oes diddordeb gennych i gael gwybod rhagor am y gwaith neu i gefnogi’n ariannol, gallwch gysylltu â’r cyfeiriad isod.

Boed i’r Arglwydd weld yn dda i fendithio’r ymdrechion bychain hyn er mwyn ei Enw.

Yr eiddoch yng Nghrist

Dewi Higham (ar ran Grŵp Cefnogaeth Menter Efengylu)
Anton Faulconbridge, Gwawr Faulconbridge, Nick Lloyd, Dewi Higham

Gwybodaeth bellach a Chymorth Ariannol:
Mrs Gwawr Faulconbridge (ysgrifenyddes), Grwp Cefnogaeth Menter Efengylu, d/o Tabernacle Cardiff, Pen-y-Wain Road, Y Rhath, Caerdydd  CF24 4GG » gwawr@tabernaclecardiff.org » 029 20403630 (nosweithiau Llun – Gwener yn unig)
Am wybodaeth bellach ewch i www.tabernaclecardiff.org/go/capelyrhath
Sieciau yn daladwy i ‘Tabernacle Cardiff’. Gellir cael gwybodaeth gan Gwawr Faulconbridge ynglyn â chyfrannu’n rheoliadd (gan gynnwys gift aid).